Gweithredwch nawr ar gyfer ffermwyr, natur a'n cymunedau

Rolling countryside full of hedges and trees

Gweithredwch nawr ar gyfer ffermwyr, natur a'n cymunedau!

Mynnwch fod y Senedd yn diogelu ac yn gofalu am goed, ac yn plannu mwy ohonynt yn y mannau cywir. Maent yn hanfodol i gynhyrchu bwyd lleol ac i ffermydd. 

Helpwch i adfer natur gan leihau effeithiau'r argyfwng hinsawdd i bob un ohonom.

Rydym am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd teg a chadarn wedi'i ariannu'n dda i Gymru. Cefnogwch ein deg blaenoriaeth ar gyfer coed ar ffermydd nawr!

  1. darparu cynllun a ariennir ar frys sy'n helpu i leihau a dadwneud effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur.
  2. sicrhau bod pob fferm yn cyrraedd yr un safonau cyfreithiol sylfaenol o ran diogelu'r amgylchedd.
  3. diogelu a gwella'r coed, y gwrychoedd a'r coetir sydd eisoes yn bodoli.
  4. helpu ffermydd i gyflawni 10% o orchudd coed a gwrychoedd. 
  5. helpu ffermwyr i greu gwrychoedd tra addas.
  6. ymateb i'r alwad gan y Senedd i gefnogi mwy o amaeth-goedwigaeth.
  7. datblygu meincnod annibynnol bywyd gwyllt fferm.
  8. ariannu gwaith traws-fferm ar gyfer gwella'r dirwedd gyfan. 
  9. cynyddu porfa lle mae coed yn tyfu ar fryniau agored.
  10.  darparu opsiynau i sicrhau mwy o gamau hinsawdd sy’n natur bositif gyda choed. 

Gofynnwch i'ch aelodau o'r Senedd sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys ein Deg Cais am Goed. 

Ebostiwch eich Aelodau o'r Senedd nawr. 

1. Darparu cynllun a ariennir ar frys sy'n helpu i leihau a dad-wneud effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur.
  • Diogelu priddoedd fferm ar gyfer cynhyrchu bwyd.
  • Lleihau llygredd, effeithiau tywydd garw, a'r costau cysylltiedig.
  • Gwella a chreu mwy o le ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Cefnogi economïau lleol, cymunedau, diwylliant a thirweddau unigryw.
2. Sicrhau bod pob fferm yn cyrraedd yr un safonau diogelu'r amgylchedd cyfreithiol sylfaenol.
  • Buddsoddi nawr mewn monitro ansawdd a gorfodaeth.
  • Rhaid i arian cyhoeddus sicrhau buddion ychwanegol i'n cymunedau.
3. Diogelu a gwella'r coed, y gwrychoedd a'r coetir sydd eisoes yn bodoli.
  • Cefnogi ffermwyr i nodi, diogelu a rheoli coed, gwrychoedd a choetir hynafol, gan ddiogelu ein treftadaeth unigryw lle mae natur yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cefnogi tenantiaid ffermydd i gynyddu gwrychoedd fel dewis arall i sicrhau gorchudd coed o 10%. 
  • Buddsoddi mewn ffensys a'r gadwyn gyflenwi ffensio.
  • Edrych ar ôl coedliniau lle mae gwrychoedd wedi tyfu'n goed aeddfed.
  • Ariannu cyngor proffesiynol i reoli coetir fferm, yn enwedig i adfer coetir hynafol.
4. Help ffermydd i weithio tuag at 10% o orchudd coed a gwrychoedd.
  • Mapio coetir fferm, gwrychoedd ac ymylon, gan gynnwys coedliniau, coed ar hyd cyrsiau dŵr a choed mewn mannau agored.
  • Mapio ardaloedd o gynefinoedd lled-naturiol lle na ddylid plannu coed.
  • Cynyddu gwrychoedd ac ymylon, coetir, ac amaeth-goedwigaeth i leihau costau, hybu cynhyrchiant a gwella'r amgylchedd.
  • Cynnig hyfforddiant a chyfleoedd i rannu profiad i amlygu'r ffyrdd niferus y mae ffermwyr yn defnyddio gwrychoedd, coed a choetir er budd eu fferm, gan helpu byd natur yn sylweddol.
5. Helpu ffermwyr i greu gwrychoedd tra addas.
  • Helpu ffermwyr i allu tyfu gwrychoedd tra addas sy’n uchel, trwchus a llydan, gan ddiogelu'r fferm a'r da byw yn well rhag gwynt, haul a llifogydd. Maen nhw’n creu storfa garbon well, gan ddarparu blodau a ffrwythau i beillwyr, a lle mwy diogel i fywyd gwyllt.
  • Dechreuwch gyda gwrychoedd ar hyd terfynau’r fferm, gan gynnwys y rhai ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r rhain yn fwy tebygol o fod yn derfynau treftadaeth hynafol sydd o werth uchel i fywyd gwyllt, i iechyd da byw a diogelwch y fferm.
6. Ymateb i'r alwad gan y Senedd i gefnogi mwy o amaeth-goedwigaeth.
  • Gwella a diogelu priddoedd i leihau effaith tywydd eithafol drwy sefydlu coed gwasgaredig, lleiniau cysgodi a choridor o goed, i ddarparu cysgod a lloches hanfodol i dda byw a chnydau newydd.
  • Buddsoddi mewn gwrychoedd ac ymylon trwy blannu coed, yn enwedig lle byddan nhw’n lleihau llifogydd a llygredd ac yn rhoi mwy o gysgod, er enghraifft o amgylch unedau da byw a dofednod, ar draws llethrau, ochr yn ochr â chyrsiau dŵr a ble bynnag y mae dŵr yn casglu, yn enwedig mewn cyfnodau o law trwm.
7. Datblygu meincnod annibynnol bywyd gwyllt fferm.
  • Sicrhau bod pob fferm yn cyflawni o leiaf sgôr bywyd gwyllt cymedrol.
  • Cefnogi dull monitro annibynnol a chymorth y mae’n hawdd cael gafael arno.
  • Darparu adnoddau a gwybodaeth i ffermwyr i gynyddu sgôr bywyd gwyllt ar dir ffermio.
8. Ariannu gwaith traws-fferm ar gyfer gwella'r dirwedd gyfan.
  • Cynyddu gorchudd coed ar hyd afonydd i wella ansawdd dŵr, colli llai o bridd ac adfer bywyd gwyllt drwy gysylltu coedydd afonydd â mwy o goed.
  • Cynyddu gorchudd coetir cefn gwlad a'r coed a’r gwrychoedd cysylltiedig ar draws y dirwedd i ddadwneud colledion natur.
  • Cefnogi’r gwaith o reoli coetir yn gydweithredol. Cynyddu’r pren a brosesir yn lleol, cynyddu cyflogaeth leol a manwerthu cynhyrchion coed i gefnogi'r gymuned leol, eu heconomi a'u diwylliant.
  • Cefnogi mentrau aml-berchennog fel prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru a chreu buddion iddynt fod yn rhan o Fforest Genedlaethol i Gymru.
9. Cynyddu porfa lle mae coed yn tyfu ar fryniau agored 
  • Pori llai ymhlith coed sy’n tyfu ar wasgar ar yr ucheldir, gan roi cyfle i goed newydd dyfu'n naturiol. Bydd dwyster pori isel hefyd yn lleihau'r risg o dân, gan helpu i ddiogelu ac adfer priddoedd mawn yr ucheldir a dal mwy o ddŵr.
  • Hybu adfywio naturiol a phlannu rhai coetiroedd ac adfer gorchudd prysgwydd bywyd gwyllt pwysig, lle nad oes rhywogaethau yn dibynnu ar dirweddau di-goed.
  • Cefnogi’r gwaith o ffensio o gwmpas nentydd a gylïau yr ucheldir i helpu coed i aildyfu’n naturiol, a thechnegau plannu coed brodorol heb ffensys. Mae hyn yn hybu lles da byw a chollir llai o bridd. Mae hefyd yn dal glawiad yn uwch am fwy o amser, gan leihau sychder a llifogydd wrth oeri blaenddyfroedd mewn gwres eithafol a helpu i adfer bywyd gwyllt.
10. Darparu opsiynau i sicrhau mwy o gamau hinsawdd sy’n natur bositif gyda choed
  • Cefnogi meithrinfeydd coed cymunedol ar ffermydd i gasglu hadau, gan ddarparu coed sydd wedi eu tyfu'n lleol er mwyn osgoi mewnforio clefydau coed. 
  • Nodi a mapio'r hen goed pwysicaf sy’n helpu i natur ffynnu ar ffermydd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a'u diogelu fel treftadaeth fyw ddiwylliannol i’w trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. 
  • Cefnogi’r gwaith o gael gwared ar rywogaethau ymledol niweidiol sy’n tyfu’n gyflym.

 

Rwyf wedi anfon e-bost at fy nghynrychiolwyr yn y Senedd 
 

 

negeseuon e-bost eisoes wedi’u hanfon 

 

  • #
  • 1
  • 2
  • 3

Dechreuwch drwy roi eich manylion i ddod o hyd i’ch Aelodau o’r Senedd

Eich manylion