Ble alla i gael rhagor o fanylion am Faniffesto Coed Cadw?
Maniffesto llawn Coed Cadw – ‘Gwreiddio Gyda’n Gilydd’
Pam na alla i weld yr holl ymgeiswyr? / Pam nad yw'r holl bleidiau wedi’u rhestru?
Nid yw pob plaid wedi cyhoeddi pwy yw'r ymgeiswyr eto. Bydd ein system e-bost yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i ragor o ymgeiswyr gael eu cyhoeddi.
Ceir rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig yma.
Sut bydd y system bleidleisio newydd yn gweithio yn Etholiad nesaf y Senedd?
Yr enw ar y system newydd yw ‘system rhestr gyfrannol gaeedig.’ Mae hyn yn golygu y bydd nifer y seddi y bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn adlewyrchiad tecach o ganran y pleidleisiau y byddant yn eu cael.
-
Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 ardal ar gyfer etholiad 2026, a’r ardaloedd hyn fydd yr etholaethau.
-
Bydd gan bob etholaeth chwe sedd yn y Senedd, sy’n golygu y bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob ardal.
-
Bydd pleidiau gwleidyddol yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.
-
Byddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol.
-
Mae’r seddi yn cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid, neu ymgeisydd annibynnol, yn ei chael.
-
Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson ar frig ei rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.
-
Bydd cyfanswm o 96 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol.
Ceir rhagor o wybodaeth yma.