Helpwch ni i achub Coed Wern rhag cael ei ddinistrio

Mae coetir hynafol o dan fygythiad unwaith eto o’r diwydiant gwyliau, gyda chynlluniau newydd i godi 40 o gytiau yng Nghoed Wern-ty-gwyn.

Yn ogystal â dinistrio dau hectar o goetir i wneud lle i’r cytiau, fe fydd y gwaith adeiladu ei hun yn achosi difrod na fydd modd ei ddadwneud.

Gyda llai na 4% o Gymru bellach o dan orchudd coetir hynafol, ni allwn fforddio colli mwy i gynlluniau fel hwn.

Ymunwch â ni i roi gwybod i Gyngor Gwynedd fod ein coetir hynafol yn werthfawr, a bod yna gytiau gwyliau y gellir eu mwynhau mewn llefydd eraill. 

Am ragor o wybodaeth am y cynllun, gweler y cwestiynnau a’r atebion isod. Rydym wedi paratoi ymateb drafft i'r cyngor y gallwch chi ei olygu; cofiwch y bydd eich geiriau yn cael mwy o effaith na’n geiriau ni yn unig, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ysgrifennu rhywbeth eich hun!

Beth yw'r broblem?

Bydd y cynllun cytiau gwyliau arfaethedig yn arwain at ddinistrio coetir hynafol yn uniongyrchol i hwyluso gosod y cytiau ei hun a seilwaith cysylltiedig. Fe fydd llwyth o goed yn cael eu cwympo i wneud lle ar gyfer y cynllun, cyfanswm o dros ddau hectar o goed. Er y bydd peth o'r torri hwn ar gyfer dibenion rheoli coetir, fe fydd trwch y newidiadau yn negyddol, gyda choed yn cael eu cwympo ar gyfer y datblygiad masnachol, llygredd yn ystod y cyfnod adeiladu, newidiadau i'r nentydd trwy’r goedwig, ac aflonyddwch i'r bywyd gwyllt oherwydd gweithgareddau dynol.

Oni ni fydd pobl sy'n caru natur eisiau dod i’r parc?

Mae Coed Cadw o blaid defnyddio coetir hynafol mewn ffyrdd sy ddim yn ei fygwth, er mwyn annog pobl i'w fwynhau ac i ysbrydoli plant am y cynefin gwerthfawr hwn ar eu stepen drws, na ellir ei ail-greu. Mae’n bwysig fod y genhedlaeth ifanc yn helpu ei warchod yn y dyfodol. Fodd bynnag, trwy ymweld â’r cytiau hyn sy’n cael effaith andwyol ar y coetir a'r bywyd gwyllt, ni fydd ymwelwyr yn gallu gwerthfawrogi coedwigoedd hynafol yn eu gogoniant. Mae coetir hynafol yn sensitif iawn i aflonyddwch trwy sathru, llygredd a chyfoethogi maetholion, felly mae'n allweddol bod y cynefin hwn yn cael ei reoli'n briodol.

Beth yw coetir hynafol sydd wedi ei adfer?

Mae coetir hynafol sydd wedi ei adfer (RAWS) yn goetir sydd yng ngham olaf y broses adfer, sef trosi planhigfa ar goetir hynafol (lle cafodd coed conwydd eu plannu yn ôl yn y 50au er mwyn helpu tyfu rhagor o bren ar ôl y rhyfel) i goetir llydanddail brodorol. Gall y broses fod yn hir; ni ddylid tynnu’r coed conwydd allan yn rhy gyflym, oherwydd mae’r planhigion sy’n tyfu ar lawr y goedwig wedi dod i arfer gydag amodau cysgodol. Ond os gwneir hyn yn sensitif, gall y coetir ddechrau ffynnu unwaith eto. Mae'r coetir hwn yn safle coetir hynafol sydd wedi ei adfer.

Onid yw Coed Wern mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd?

Er bod y goedlan wedi dioddef rhywfaint o ddiffyg rheolaeth ers ei adfer ychydig flynyddoedd yn ôl, os caiff cynllun rheoli ei weithredu'n llawn, fe allai ffynnu fel coetir hynafol llydanddail unwaith eto.

Yn sicr, nid yw diffyg rheolaeth y coetir ar hyn o bryd yn rheswm da dros adeiladu cytiau gwyliau drosto fo.

Onid yw'r ymgeiswyr yn mynd i reoli'r coetir fel rhan o'r cais?

Ydyn, ac mae Coed Cadw’n croesawu rheoli unrhyw goedlan ar gyfer byd natur. Ond yr hyn sy’n ein poeni ni yw’r cytiau gwyliau a’r seilwaith arall; nid yw’r rhain yn rhan gwaith rheoli yn y coetir. Mae'r datblygiad hwn yn fenter fasnachol; dylai'r coetir gael ei reoli'n briodol heb effeithiau niweidiol cynllun.

Beth alla i ei wneud i helpu?

Drwy gysylltu â'r Cyngor i leisio pryder, fe fyddwch hefyd yn rhoi llais i fywyd gwyllt y coetir. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen syml ar dde'r dudalen i anfon llythyr o wrthwynebiad at y Cyngor, neu os hoffech gael mwy o fanylion am y cynllus, fe a allwch ddilyn y ddolen yma.

Gyda phwy allaf i siarad am y cais hwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â'n tîm yn [email protected].

Rwy’n dweud PEIDIWCH â dinistrio coetir hynafol
 

 

Gwrthwynebiadau a ddanfonwyd eisoes

 

Defnyddiwch ein ffurflen syml isod i ymateb i gais cynllunio C18/0767/25/LL ar wefan Cyngor Gwynedd

Eich manylion

Sir/Madam
Gwynedd
Council
Gwynedd Council